Adnoddau
Mae’r statws Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei ddefnyddio i adfywio a grymuso cymunedau llechi Gwynedd; rydym yn hyderus y bydd yn sbardun ar gyfer cyflogaeth, sgiliau, cyrchfannau gwell a gweithredu cymunedol.

Mae’n bwysig bod ein pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn eu cynefin a’u hanes cyfoethog ac yn falch o’u treftadaeth unigryw yma yng Ngwynedd.
Mae’r gwaith sydd wedi digwydd drwy’r Cynllun LleCHI wedi bod yn allweddol yn y broses o godi ymwybyddiaeth am pa mor arbennig ydy broydd ein chwareli. Mae yna egni newydd a chyffro wrth fynd ati i rannu ein hanesion, gyda rhai pobl a phlant yn dysgu o’r newydd am eu treftadaeth ac eraill yn cael blas ar gyfrannu eu syniadau i gynlluniau adfywio eu cymunedau.
Mae’r ardal yma yn ne Gwynedd yn bell o Fethesda, Llanberis, Nantlle a Blaenau Ffestiniog. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y diwydiant llechi drwy’r sir.
Chwarel Dinorwig ydi canolbwynt yr ardal yma. Mae’r cyfan o’r tirwedd yn wirioneddol ryfeddol, ac yn ogoneddus o hardd. Mae’r Wyddfa gerllaw, a llynnoedd Padarn a Pheris, efo Castell Dolbadarn yn gwylio’r Dyffryn ers y 13eg ganrif.
Yn 1873, disgrifiwyd tref Blaenau Ffestiniog fel “dinas y llechi” gan mai dyma dref fwyaf ardaloedd y chwareli. Datblygwyd nifer o chwareli o amgylch y dref efo pres buddsoddwyr o Loegr a’r Iwerddon – a mae rhai yn parhau i weithredu.