YR CAIS (ENWEBIAD)
Er mwyn ymgeisio am statws Safle Treftadaeth y Byd, mae’n ofynnol cyflwyno cais, neu ddogfen enwebiad, i UNESCO. Mae’r cais yn mynd trwy broses asesu trwyadl er mwyn sicrhau fod y safle yn cwrdd a gofynion UNESCO ar gyfer ei ddynodi.
Mae’r cais wedi ei seilio ar ddatganiad o werth rhyngwladol eithriadol; hynny yw, pam fod ein tirwedd llechi yn bwysig i’r Byd!
Mae’n enghraifft eithriadol o dirwedd ddiwylliannol ddiwydiannol, a ffurfiwyd trwy chwarelyddiaeth ar raddfa eang, ar yr wyneb ac yn danddaearol, a hefyd trwy drin llechi a’u cludo ar gyfer marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Roedd y diwydiant hwn, yn arbennig pan oedd yn ei anterth rhwng 1780 a 1940, yn ben ar gynhyrchu llechi to yn fyd eang; fe ddylanwadodd ar agor chwareli a chloddfeydd llechi ledled y byd yn sgil trosglwyddo technoleg a sgiliau; ac fe weddnewidiodd yr amgylchedd a’r ffordd o fyw i’r rhai hynny a oedd yn byw ac yn gweithio ym mynyddoedd Eryri.
Mae’r Ddogfen Enwebiad yn cynnwys:
- Crynodeb gweithredol
- Adnabod yr Eiddo
- Disgrifiad
- Cyfiawnhad dros Arysgrifio (noder nad yw criteria v bellach yn rhan o’r cais)
- Statws Cadwraeth a Ffactorau yn Effeithio’r Eiddo
- Gwarchodaeth a Rheolaeth yr Eiddo
- Monitro
- Dogfennaeth
- Manylion Cyswllt a Awdurdodau Cyfrifol
- Llofnod ar ran Plaid y Wladwriaeth
Gweld Y Ddogfen Enwebiad (pdf)
Y CYNLLUN RHEOLAETH
Ochr yn ochr â’r cais datblygwyd Cynllun Rheolaeth ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r Cynllun Rheolaeth yn egluro sut fydd y Cyngor a’i bartneriaid yn rheoli, gwarchod a datblygu’r Safle Treftadaeth Byd yn y dyfodol.
Mae’r Cynllun Rheolaeth yn:
- Cyflwyno’r Dirwedd Ddiwylliannol a’r elfennau sydd wedi eu dewis ar gyfer y dynodiad. Mae’n bwysig fod y rhain o “Werth Eithriadol Fyd-eang”. Dyna’r prawf oedd rhaid bod yn siŵr ohono, bob tro.
- Egluro ein gweledigaeth sef “Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu Gwerth Rhyngwladol Eithriadol Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn ysgog pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol”.
- Egluro sut y byddwn yn rheoli’r Safle Treftadaeth Byd.
- Egluro sut rydym yn bwriadu gofalu am y chwe ardal, a’r elfennau unigol. Mae polisïau cenedlaethol CADW yn bwysig, a pholisïau a threfniadau Adrannau Cynllunio Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.
- Esbonio fod cynaliadwyedd yn eithriadol bwysig i fywydau pawb ohonom. Nid creu amgueddfa o’r dirwedd ydi pwrpas sefydlu Safle Treftadaeth Byd. Rydym am weld y dirwedd yn parhau’n fyw, a sicrhau bod cymunedau’n parhau’n fywiog.
- Egluro sut y byddwn yn helpu’r bobl sy’n byw yma, a’r rhai sy’n ymweld, i fwynhau, profi a deall pwysigrwydd ein Safle.
- Helpu pawb i ddysgu am y Safle. Mae hynny’n golygu rhannu, ac addysgu – mae cymaint i’w ddeall, ei werthfawrogi, a’i fwynhau gennym.
Mae’r Cynllun Rheolaeth yn cynnwys:
- Rhagair
- Rhagymadrodd
- Geirfa
- Cyflwyniad
- Diben a Statws y Cynllun Rheolaeth
- Y Dirwedd Ddiwylliannol – Gwerth Rhyngwladol Eithriadol a Phriodweddau
- Y weledigaeth ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
- Thema 1: Llywodraethu a Rheoli
- Thema 2: Gofalu am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
- Thema 3: Datblygiad Cynaliadwy Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
- Thema 4: Mwynhau Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
- Thema 5: Dysgu am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
- Cyfeiriadau
- Cynllun Gweithredu 2020–2030