Mae Cyngor Gwynedd, ar ran ystod o bartneriaid wedi datblygu enwebiad i sicrhau Statws Safle Treftadaeth y Byd i dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi ei leoli yng Ngwynedd ac yn cynnwys chwech ardal allweddol. Mae’r dirwedd yn arddangos stori anhygoel yr esblygiad o gymdeithas amaethyddol yr ucheldir i un wedi’i ddominyddu gan y diwydiant llechi; gyda trefi, chwareli a chysylltiadau trafnidiaeth yn naddu eu ffordd trwy fynyddoedd Eryri i lawr i’r porthladdoedd eiconig.
O fewn tirwedd llechi gogledd orllewin Cymru mae modd i chi weld, darllen a deall pob cam o’r diwydiant cloddio yn well na mewn unrhyw fan arall o’r byd. Y chwareli enfawr, pyllau dwfn, ceudyllau a thomenni anferthol; melinau prosesu; systemau trafnidiaeth yn cynnwys inclêns serth, ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladdoedd; cymunedau wedi eu creu ar gyfer y gweithlu a thai crand y perchnogion; defnydd o’r cynnyrch terfynol o’n cwmpas ym mhob man.
Wyddoch chi? Fe deithiodd gweithwyr o Ogledd Orllewin Cymru ar draws y byd i weithio a rhannu syniadau ac arloesedd.