"Mae hen gof yma’n gafael,
A hen ffydd ar graig ddi-ffael."
Ieuan Wyn, 'Llanw a Thrai'
Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus
Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:
- Chwarel y Penrhyn | Gwybodaeth mynediad Chwarel y Penrhyn ar www.treftadaetheryri.info
- Melinau Slabiau Felin Fawr | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Ffordd Haearn Chwarel y Penrhyn a Rheilffordd Chwarel y Penrhyn | Gwybodaeth mynediad Ffordd Haearn Chwarel y Penrhyn a Rheilffordd Chwarel y Penrhyn ar www.gwynedd.llyw.cymru
- Aber Cegin (Porth Penrhyn) | Gwybodaeth mynediad Aber Cegin (Porth Penrhyn) ar www.treftadaetheryri.info
- Anheddiad Mynydd Llandygai | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Pentref Bethesda | Gwybodaeth mynediad Pentref Bethesda ar www.visitsnowdonia.info
- Castell Penrhyn a’r Parc | Gwybodaeth mynediad Castell Penrhyn a’r Parc ar www.nationaltrust.org.uk
Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.
Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.
Gallwn weld pob cam yn y broses o greu a gwerthu llechi yn yr ardal rhwng Chwarel y Penrhyn a Phorth Penrhyn. Roedd yr ardal bron iawn i gyd o dan reolaeth teulu’r Pennant, a ddaeth yn ddiweddarach yn Dawkins-Pennant ac yna yn Douglas-Pennant. Teulu a ddefnyddiodd llafur caethweision i wneud eu ffortiwn o’u planhigfeydd siwgr yn Jamaica ar ddiwedd yr 18fed ganrif. Ffortiwn a fuddsoddwyd i wneud Chwarel y Penrhyn y fwyaf yn y byd ar un adeg.
Chwarel y Penrhyn
Mae safle’r Chwarel wreiddiol yn anferthol. Efallai eich bod wedi hedfan drosti ar y “Wifren Wib”! Roedd tua 3000 o ddynion yn gweithio yma erbyn canol y 19eg ganrif. I gael at y llechfaen, defnyddiwyd system o dros 20 o bonciau i gamu i fyny llethrau Mynydd y Fronllwyd. Gadawyd y llechfaen nad oedd digon da i’w hollti a’i droi yn llechi to, mewn tomennydd enfawr o wastraff. Wrth i’r chwarel ddatblygu, defnyddiwyd pŵer dwr i godi wagenni mewn lifftiau (“tanciau”) arloesol. Ac wrth i’r Chwarel fynd yn ddyfnach, defnyddiwyd pympiau i godi dŵr o’r gwaelodion, a’i wagio trwy dwnnel i Afon Ogwen.
Gweithdai’r Chwarel
Gweithdai’r Chwarel wreiddiol sydd yn Felin Fawr. Llifio meini oedd gwaith y llifiau crwn cyntaf yn y byd a osodwyd yma yn 1802. Pŵer dwr yr afon oedd yn troi’r peirianwaith llifio. Roedd y dramffordd adeiladwyd yn 1801 i gysylltu’r Chwarel efo Porth Penrhyn yn croesi’r afon yma. Felly, pan ail-adeiladwyd y rheilffordd ar gyfer injans stêm yn y 1870’au, dyma’r lleoliad amlwg ar gyfer gweithdai peirianyddol y Chwarel.
Symud Llechi
Mae llechi’n drwm ac yn fregus. Rhaid eu cludo’n ofalus, rhag ofn iddynt dorri. Ar y cychwyn, trol a cheffyl, neu fasgedi ar gefn ceffyl, oedd y dull cario ymhob man. Yn 1801 adeiladwyd tramffordd gul, efo ceffylau’n llusgo wagenni ar hyd rheiliau haearn. Roedd hon yn ysbrydoliaeth ar gyfer nifer o dramffyrdd yn ardaloedd y llechi, ac yna ar draws y byd.
Porth Penrhyn oedd terfyn y daith reilffordd. Porthladd ar gyfer llongau oedd yn cario’r llechi ar draws y byd. Codwyd y cei cyntaf yma yn 1790, ac roedd yn cael ei ddatblygu hyd at 1855. Erbyn hynny, roedd cysylltiad rheilffordd lein fawr wedi cyrraedd y porthladd. Mae llawer o’r adeiladau gwreiddiol yn parhau mewn defnydd, ac - yn rhyfeddol - mae llongau masnachol yn cario ambell lwyth o aggregad llechi Chwarel y Penrhyn oddi yma o hyd.
Byw a Bod
Mae ardaloedd Bethesda, Mynydd Llandygai, a Chastell Penrhyn yn wahanol iawn i’w gilydd. Tyfodd pentref poblog Bethesda o amgylch y capel o’r un enw. Agorwyd ef yn 1820, ar ochr Lon Bost Thomas Telford o Lundain i Gaergybi. Calon y pentref ydi’r tai sydd wedi eu gwasgu’n blith draphlith ar dir nad oedd yn perthyn i Stad y Penrhyn. Yn ddiweddarach, o dan ddylanwad y Stad, rhoddwyd mwy o drefn ar ddatblygiad pellach tai a strydoedd.
Mae Mynydd Llandygai yn bentref wedi ei gynllunio yn ofalus gan y Stad o 1843 ymlaen. Mae pob bwthyn efo darn hir o dir ar gyfer gardd a chadw mochyn. Caniatawyd capeli yma, ond gellid gweld pig eglwys Anglicanaidd St Anne’s gerllaw o bobman.
Codwyd Castell Penrhyn yn ddatganiad o hyder a statws cymdeithasol y teulu o ddiwydianwyr oedd yn berchnogion ar y Chwarel. Mae ar safle cyfres o adeiladau fu’n gartrefi i uchelwyr Cymreig. Mae’n adeilad ffug Normanaidd a orffennwyd yn 1837, sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dyma un o blastai mwyaf moethus Cymru - ac mor wahanol i amgylchiadau byw'r chwarelwyr.
Y Streic Fawr
Rhwng Tachwedd 1900 a Thachwedd 1903 rhwygodd “Streic Fawr” Chwarel y Penrhyn gymunedau'r ardal. Roedd yn un o’r streiciau hiraf, a mwyaf poenus, yn hanes Undebaeth Llafur. Mae “hen gof” o’r streic dal yn fyw yn yr ardal - ond hefyd, mae’r diwydiant llechi yn parhau’n fyw. Ers y 1970’au, defnyddiwyd peiriannau a thechnegau cyfoes i ehangu’r chwarel gan gynhyrchu’r llechi gorau un. Mae galw am y rhain ar gyfer adeiladau hardd a safonol ar draws y byd, er enghraifft Catharinakerk, eglwys gadeiriol yn Eindhoven, Yr Iseldiroedd.