Prosiect LleCHI LleNI

Ein Safle Treftadaeth y Byd, Ein Balchder, Ein Dyfodol

Logo Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

 

Beth yw'r prosiect?

Mae LleCHI LleNI yn brosiect gwerth £2 filiwn dros 5 mlynedd (2024-2029). Mae’n rhan hanfodol o ymdrech strategol ehangach Safle Treftadaeth y Byd (STyB) i gysylltu ystod eang o bobl â’r Dirwedd Lechi a defnyddio Arysgrif UNESCO fel sbardun ar gyfer adfywio economaidd a chymdeithasol, gan anelu at rymuso cymunedau ar draws Gwynedd. Credwn fod yr Arysgrif ar gyfer pawb ac rydym am gefnogi ein cymunedau i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.

LleCHI LleNI yw’r elfen o’r ymdrech sy’n canolbwyntio ar bobl er mwyn darparu ymgysylltiad i bawb, gan ennyn ymdeimlad cryf o gynefin a balchder lleol yn y Dirwedd Lechi, gwella lles, darparu cyfleoedd, datblygu sgiliau a hybu’r economi leol.

 

Pobl yn edrych ar creiriau
Hawlfraint: Ymddiriedolaeth Genedlaethol 2023

 

Pa weithgareddau fydd y prosiect yn eu cynnwys?

  • Grantiau i grwpiau cymunedol ar gyfer eu prosiectau llechi eu hunain i annog balchder mewn treftadaeth, lles a datblygu sgiliau. Am ragor o wybodaeth ewch i Cronfa LleCHI LleNI
  • Fforwm Cymunedol ar gyfer llais cymunedol wrth reoli’r STyB
  • Gwaith dehongli sy'n adrodd stori llechi trwy bersbectif cymunedau amrywiol
  • Mynd allan yn yr awyr agored fel rhan o deithiau cerdded tywys a gweithgareddau lles
  • Sesiynau galw heibio i'r teulu
  • Diogelu’r STyB – gweithgareddau gwarchod treftadaeth a sesiynau cadwraeth cymunedol
  • Gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol sy'n dathlu ein treftadaeth llechi
  • Gweithgareddau i hybu a gwella bioamrywiaeth
  • Perfformiadau – gan gynnwys drama, cerddoriaeth a'r gair llafar
  • Hanes llafar
  • Gweithdai ysgolion, gwibdeithiau awyr agored a gweithgareddau ar-lein
  • Llysgenhadon Ifanc – cyfleoedd a datblygu sgiliau ar gyfer pobl ifanc 13-18 oed
  • Adnoddau a gweithgareddau i ddysgwyr Cymraeg
  • Sgiliau Traddodiadol – hyfforddiant ffurfiol, achrededig a sesiynau anffurfiol
  • Cwrs Cynefin a Chymuned - llysgenhadon yn cefnogi twristiaeth gymunedol gynaliadwy
  • Hyfforddiant busnesau – i helpu staff i gyfleu gwybodaeth i gwsmeriaid ac ymwelwyr
  • Ymchwil – gan gynnwys archwilio hanes cudd neu heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Adnoddau digidol i helpu pobl i gael mynediad i'r dirwedd a chysylltu â hi o bell
  • Teithlenni â themâu, i hyrwyddo eco-deithio a thwristiaeth gymunedol gynaliadwy
  • Rhannu gwybodaeth a negeseuon diogelwch
  • Cyfleoedd gwirfoddoli

 

Pobl yn mynychu cwrs i fusnesau

 

Ar gyfer pwy mae'r prosiect?

 

Map cynulleidfaoedd prosiect LleCHI LleNI

Bydd y prosiect yn canolbwyntio'n bennaf ar y cymunedau sydd agosaf at STyB ond hefyd yn ymestyn allan ar draws Gwynedd yn ogystal ag ymgysylltu ag ymwelwyr i'r Dirwedd Lechi er mwyn hyrwyddo twristiaeth gymunedol, gynaliadwy.

 

CYNULLEIDFAOEDD CRAIDD

Rhanddeiliaid lleol - Trigolion lleol, arweinwyr cymunedol, safleoedd treftadaeth, tirfeddianwyr, busnesau bach

Ysgolion, colegau a phrifysgolion

Ymwelwyr – dysgu am dreftadaeth, diwylliant yr iaith Gymraeg, archwilio’n gyfrifol

 

Yn ogystal, bydd y prosiect yn ceisio ymgysylltu â’r cynulleidfaoedd canlynol i sicrhau mynediad eang i weithgareddau’r prosiect:

  • Pobl ifanc (digartref/yn wynebu digartrefedd, gofalwyr ifanc)
  • Pobl hŷn a bregus
  • Cymunedau dan anfantais a phobl sy'n wynebu tlodi bwyd
  • Teuluoedd
  • Cymunedau gwledig ac amaethyddol
  • Pobl sydd wedi symud i'r Dirwedd Llechi
  • Pobl sy'n chwilio am gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth
  • Pobl LHDTC+
  • Pobl ag ystod eang o anableddau, afiechyd neu wahaniaethau

 

Grantiau Cymunedol LleCHI LleNI

Mae Cyngor Gwynedd yn gweinyddu'r gronfa hon ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yng Ngwynedd. Gan adeiladu ar y momentwm o fewn ein cymunedau chwarelyddol yn dilyn dynodiad Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, prif nod y grant yw:

  • cefnogi prosiectau cyfalaf a refeniw a fydd yn gwella ymgysylltiad cymunedol i bawb
  • creu balchder lleol yn nhreftadaeth y tirweddau llechi
  • gwella lles a datblygu sgiliau.

Am ragor o wybodaeth am y gronfa ewch i Cronfa LleCHI LleNI

 

Pwy ydym ni?

 

Tim prosiect LleCHI LleNI

Mae tîm prosiect LleCHI LleNI yn cynnwys Rheolwr Prosiect (Lucy Thomas), Swyddog Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol (Bet Huws) a Swyddog Dysgu a Datblygu Sgiliau (Ffion Gwyn). Rydym yn cael ein cyflogi gan Gyngor Gwynedd ac yn adrodd i Fwrdd Partneriaeth y STyB, ac yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid ar draws y dirwedd lechi.

 

Sut i gymryd rhan?

Pobl yn cymryd rhan mewn gweithgaredd llesiant

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol

Facebook: @LlechiCymruWalesSlate

Instagram: @llechicymruwalesslate

X: @LlechiCymru

E-bostiwch ni ar llechi@gwynedd.llyw.cymru