“Pwy’r rhain sy’n disgyn hyd ysgolion cul
Dros erchyll drothwy chwarel Dorothea?
Y maent yr un mor selog ar y Sul
Yn Saron, Nasareth a Cesarea”
R. Williams Parry, Cerddi’r Gaeaf, t. 83, 'Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw'
Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus
Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:
- Tomennydd Chwarel y Cilgwyn | Gwybodaeth mynediad Tomennydd Chwarel y Cilgwyn ar www.visitsnowdonia.info
- Rhaffordd ‘Blondin’ Chwarel Blaen y Cae | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Chwarel Dorothea | Gwybodaeth mynediad Chwarel Dorothea ar www.visitsnowdonia.info
- Injan Drawst Gernywaidd Chwarel Dorothea | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Aneddiadau, Melin Lechi a Pengialiau Inclên Tsiaen Chwarel Pen y Bryn / Cloddfa’r Lôn | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- System-Bwmpio efo Grym Dŵr yn Chwarel Pen y Bryn / Cloddfa’r Lôn | Gwybodaeth mynediad System-Bwmpio efo Grym Dŵr yn Chwarel Pen y Bryn / Cloddfa’r Lôn ar www.visitsnowdonia.info
- Chwarel Pen yr Orsedd | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Rhaffyrdd ‘Blondin’ Chwarel Pen yr Orsedd | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Rheilffordd Nantlle | Gwybodaeth mynediad Rheilffordd Nantlle ar www.visitsnowdonia.info
- Pentref Nantlle | Gwybodaeth mynediad Pentref Nantlle ar Astudiaeth Cymeriad Nantlle (pdf)
- Aneddiadau ar Fynydd y Cilgwyn | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Plas Tal y Sarn a ffermdy Tal y Sarn | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.
Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.
Mae Dyffryn Nantlle yn ardal efo hanes archeolegol hir ac amrywiol. Oherwydd y dirwedd a’r ddaeareg mae’r chwareli wedi eu gwasgu i ardaloedd cyfyng. Cloddiwyd y llechi mewn tyllau dyfn ar lawr y dyffryn, neu ar y llethrau i’r gogledd. Roedd gwagio’r dŵr o dyllau dyfn y chwareli yn broblem gyson, ac roedd rhaid codi popeth - llechfaen da, a gwastraff - allan o’r tyllau. Mae nifer o nodweddion archeolegol unigryw a pwysig oedd yn hwyluso’r codi, symud a gwagio i’w gweld yma.
Codi o’r tyllau
Codi oedd gwaith blondinau chwareli Blaen y Cae a Phen yr Orsedd. Mewnforiwyd technoleg codi ar raff ‘blondin’ o chwareli’r Alban gan ei addasu ar gyfer anghenion Dyffryn Nantlle. Cafodd ei enwi ar ôl Charles Blondin y cerddwr rhaff dynn enwog a groesodd geunant Niagara yn 1859. Techneg arall ar gyfer codi oedd incleiniau tsiaen chwareli Pen y Bryn a Chloddfa’r Lon - dyfeisiwyd y rhain yn lleol. Roedd bod yn barod i ddyfeisio yn nodwedd o beirianwyr ardal Dyffryn Nantlle.
Pympiau dŵr
Gwagio dŵr oedd pwrpas yr injan stêm drawst gosgeiddig a osodwyd uwchlaw tyllau chwarel Dorothea yn 1906. Roedd yn dechnoleg o Gernyw ac yn un o’r olaf o’i math i’w gwneud. Bu mewn defnydd yma tan 1951. Defnyddiwyd pympiau trydan ar ôl hynny tan y caewyd y chwarel. Rhwng 1836 a 1844 yn chwareli Pen y Bryn a Chloddfa’r Lon gosodwyd olwynion dŵr mwy traddodiadol oedd yn cysylltu efo rodiau gyda chyfres o bympiau.
Byw a bod
Cafodd llawer o chwareli bychain eu datblygu gan nad oedd un perchennog tir yn rheoli’r ardal gyfan. Mae’r ysbryd annibynnol yma i’w weld yn nhyddynnod a bythynnod Mynydd Cilgwyn sydd â darnau o dir yn perthyn iddynt. Codwyd y rhain o 1798 ymlaen heb ganiatâd cyfreithiol. Mae’r rhain yn wahanol iawn i’r pentref “cwmni” Nantlle, a’i dai , oedd yn eiddo i Gwmni Chwarel Pen yr Orsedd. Mae Plas a Ffermdy Talysarn ger chwarel Dorothea yn brawf o’r cysylltiad agos rhwng amaethyddiaeth a chwareli yn yr ardal.
Gwalia
Aeth chwarelwyr di-waith y 1930’au ati eu hunain i ail-weithio llechfaen oedd yn rhan o domennydd hirion Chwarel Cilgwyn. Nhw gododd y gwalia crwn i’w cysgodi rhag y tywydd.
Symud llechi
Cludwyd y llechi i borthladd Caernarfon ar Reilffordd Nantlle. Agorwyd hon yn 1828 efo arian o Lerpwl, gan ddefnyddio sgiliau teulu enwog Stephenson. Dyma’r rheilffordd gyhoeddus cyntaf ym mröydd y chwareli.