Prosiectau

Hawlfraint: Heneb 2024
Hawlfraint: Heneb 2024

 

Mae’r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd yn anrhydedd o’r radd flaenaf sy’n nodi pwysigrwydd rhyngwladol treftadaeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ond nid yw’r statws yn dod gydag unrhyw gyllideb ychwanegol.

Mae Partneriaeth Llechi Cymru wedi ymrwymo i ymgeisio am fuddsoddiad allanol yn ogystal â'r gefnogaeth gan y partneriaid er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ac amcanion ac er mwyn sicrhau bod cymunedau a busnesau Gwynedd yn elwa o’r dynodiad. Cliciwch ar y prosiectau unigol yn y ddewislen i ddysgu mwy am brosiectau Llechi Cymru a wnaed yn bosibl gyda grantiau a buddsoddiad.

Gweledigaeth y Dynodiad

Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.

 

Amcanion y Dynodiad

  • Economi ranbarthol ffyniannus
  • Cymunedau hyfyw a byw yn falch o’u cymuned a’u treftadaeth
  • Cyflogaeth fedrus o ansawdd uchel
  • Sector twristiaeth gwerth uwch, trwy’r flwyddyn
  • Parhad y diwydiant llechi
  • Tirwedd gynaliadwy a byw
  • Dathlu rôl ein treftadaeth llechi yn y byd
  • Diogelu a gwella treftadaeth ffisegol