“Yn wyneb pob caledi
Y sydd neu eto ddaw
Dod gadarn gymorth imi
I lechu yn dy law”
Rhan o emyn 71, Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd, 1929. Canwyd yn ystod streiciau a ralïau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru
Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus
Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:
- Chwarel Dinorwig | Gwybodaeth mynediad Chwarel Dinorwig ar www.visitsnowdonia.info
- Ponc ‘Australia’ | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Y Dre’ Newydd (Barics Môn) yn Chwarel Dinorwig | Gwybodaeth mynediad Y Dre’ Newydd (Barics Môn) yn Chwarel Dinorwig ar www.gwynedd.llyw.cymru
- Inclên V2 / Chwarel Lechi’r Vivian | Gwybodaeth mynediad Inclên V2 / Chwarel Lechi’r Vivian ar www.treftadaetheryri.info
- Amgueddfa Lechi Cymru (Cyfadeiladau Peirianyddol Chwarel Dinorwig) | Gwybodaeth mynediad Amgueddfa Lechi Cymru ar amgueddfa.cymru
- Systemau Ffyrdd Chwarel Dinorwig | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Ffordd Haearn a Rheilffordd Chwarel Dinorwig | Gwybodaeth mynediad Ffordd Haearn a Rheilffordd Chwarel Dinorwig ar www.lake-railway.co.uk
- Aneddiadau Deiniolen, Clwt-y-Bont, Dinorwig, a’r Fachwen | Gwybodaeth mynediad Aneddiadau Deiniolen, Clwt-y-Bont, Dinorwig, a’r Fachwen ar Astudiaeth Cymeriad Deiniolen (pdf)
- Craig yr Undeb | Gwybodaeth mynediad Craig yr Undeb ar historypoints.org
- Ysbyty Chwarel Dinorwig | Gwybodaeth mynediad Ysbyty Chwarel Dinorwig ar www.gwynedd.llyw.cymru
Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.
Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.
Chwarel Dinorwig ydi canolbwynt yr ardal yma. Mae’r cyfan o’r tirwedd yn wirioneddol ryfeddol, ac yn ogoneddus o hardd. Mae’r Wyddfa gerllaw, a llynnoedd Padarn a Pheris, efo Castell Dolbadarn yn gwylio’r Dyffryn ers y 13eg ganrif. Fel yn Nyffryn Ogwen, cyfoeth perchennog tir aristocrataidd oedd yn sylfaen ar gyfer datblygiad y chwarel. Teulu'r Faenol yn yr achos yma - teulu Assheton Smith, Duff yn ddiweddarach. Cafodd sgweiar y Faenol yr hawl i feddiannu’r tir yn 1806 gan ei gyfeillion yn y Senedd yn San Steffan.
Chwarel Dinorwig
Chwarel Dinorwig oedd yr ail fwyaf yn y byd, ar un adeg. Fe’i gweithiwyd rhwng 1787 a 1969. Mae dros 30 o bonciau yma, gyda’u tomennydd rwbel. Mae pob un wedi eu cysylltu drwy un o’r rhwydwaith o inclenau sydd yn nodwedd mor amlwg o’r chwarel, a defnyddiwyd y rhain hyd at y diwedd. Ar ôl cau yn 1969, prynwyd y safle’n fuan gan y cwmni a ddatblygodd gynllun trydan dwr yma. Golygodd hynny fod y rhan fwyaf o’r strwythurau wedi goroesi. Mae Ponc Australia, efo’i felin anferthol, a’i sustemau gyriant trydanol o’r 1920’au, yn esiampl dda.
Gweithdai Gilfach Du
Mae gweithdai peirianyddol taclus Gilfach Ddu, efo’u holwyn ddŵr anferthol, yn arwydd o hyder a balchder. Roedd y pwer ar gyfer y cyfan o’r adeilad yn cael ei gynhyrchu gan yr olwyn ddŵr mwyaf sydd wedi goroesi ar diroedd Prydain - ac mae’n dal i droi. Mae’r adeiladau, a’u cynnwys, yn drysorfa o’r peirianwaith, y sgiliau a’r adnoddau oedd eu hangen i weithredu a chynnal chwarel fawr. Ail-agorwyd y gweithdai peirianyddol yn Gilfach Du fel un o ganghennau Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1972. Yma, gallwch weld arddangosfeydd o sgiliau hollti a naddu llechi, ac un o inclenau Chwarel Vivian mae’r Amgueddfa wedi adfer. Hefyd mae cyfle i fwynhau taith ar drên stem Rheilffordd Llyn Padarn, ar ran o lwybr ail reilffordd (1840’au) y Chwarel.
Symud Llechi
Ar y cychwyn, defnyddiwyd sustem o lonydd pwrpasol ar gyfer cludo’r llechi. Roedd y lonydd yn arwain at lannau Llyn Padarn, ac wedyn at lannau’r Fenai.
Roedd arloesi yn bwysig, ac yn 1825, agorwyd y rheilffordd cyntaf, tebyg ei chynllun i reilffordd 1801 Chwarel Penrhyn. Yna, yn y 1840’au, adeiladwyd rheilffordd llawer mwy soffistigedig ar hyd glan Llyn Padarn. Hon fyddai’r cyntaf yn ardaloedd y chwareli i ddefnyddio injans stêm. Roedd y peirianwyr wedi dysgu am y dechnoleg wrth weithio efo’r enwog Robert Stephenson ac Isambard Brunel.
Byw a Bod
Sefydlwyd pentrefi poblog, llawn cymeriad o amgylch y Chwarel. Wrth y lôn arweiniai i rannau uchaf y Chwarel, trefnwyd plotiau o dir i’w lesu ar gyfer codi cartrefi i’r chwarelwyr. Mae llwybr y lôn, ac yna'r rheilffordd gyntaf, wedi arwain at ffurfio pentrefi Deiniolen a Chlwt y Bont. Tai rhydd, di-brydles, sydd yma, heb fod dan ddylanwad y Faenol. Ond byddai’r eglwys Gothig gerllaw yn atgof cyson o’r dylanwad hwnnw.
Roedd y chwarelwyr oedd yn teithio o bell, er enghraifft, o Sir Fon, yn aros mewn “barics”. Dyma lun o barics y Dre Newydd, a ddefnyddiwyd tan 1937.
Ysbyty
Adeiladwyd yr Ysbyty mewn lleoliad amlwg uwchben Llyn Padarn. Roedd wedi ei chynllunio i ddangos dylanwad tadol Mr Assheton Smith. Byddai llawfeddygon y Chwarel yn gwneud defnydd hyderus o offer arloesol pelydr-X wrth drin gweithwyr oedd wedi eu brifo yn y chwarel.
Craig yr Undeb
Yr agwedd dadol, lethol yma oedd yr her a wynebai’r dynion, wrth iddynt geisio ffurfio Undeb Llafur. Dyna pam roedd rhaid cyfarfod ym Mhenllyn; tir oedd ddim yn eiddo i berchennog chwarel. Yma y ffurfiwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, un o’r Undebau Llafur cyntaf yng Nghymru. Roedd brwydrau mawr o’u blaenau i sicrhau tegwch i’r gweithiwyr. Craig yr Undeb ydi enw’r llecyn yma erbyn hyn.