“Ar y llechen y tyfodd y dref hon;
Blodyn glas ydyw a fwriodd ei wraidd i ddwfn y mynyddoedd,
I hollt ac ysgythredd meini a malurion caled”
Gwyn Thomas, Ysgyrion Gwaed, Cerdd 'Blaenau', t.12
Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus
Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:
- Chwareli Ffestiniog | Gwybodaeth mynediad Chwareli Ffestiniog ar www.blaenauffestiniog.org
- Gweithfeydd Tanddaearol | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Gorsaf Ynni Dŵr Pant yr Afon | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Melin Chwarel Diffwys | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Prif Gyfadeiladau Chwarel Maenofferen | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Tref Blaenau Ffestiniog | Gwybodaeth mynediad Tref Blaenau Ffestiniog ar www.visitsnowdonia.info
- Plas Tan y Bwlch | Gwybodaeth mynediad Plas Tan y Bwlch ar www.eryri-npa.gov.uk
- Ceiau llechi ar Afon Dwyryd | Gwybodaeth mynediad - Dim Mynediad Cyhoeddus
- Rheilffordd Ffestiniog | Gwybodaeth mynediad Rheilffordd Ffestiniog ar www.festrail.co.uk
- Harbwr Porthmadog | Gwybodaeth mynediad Harbwr Porthmadog ar historypoints.org
Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.
Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.
Yn 1873, disgrifiwyd tref Blaenau Ffestiniog fel “dinas y llechi” gan mai dyma dref fwyaf ardaloedd y chwareli. Datblygwyd nifer o chwareli o amgylch y dref efo pres buddsoddwyr o Loegr a’r Iwerddon – a mae rhai yn parhau i weithredu. Roedd y pum chwarel sy’n rhan o’r ardal Dynodiad, yn eiddo i berchnogion gwahanol. Y ffordd fwyaf hwylus o gloddio’r llechi oedd drwy ddefnyddio cloddfeydd tanddaearol. Ceir dros 100 km o lefelau a thwneli, a channoedd o agorydd o dan y ddaear. Gadawyd y llechfaen nad oedd digon da i’w hollti a’i droi yn llechi to, mewn tomennydd enfawr o wastraff. Gallai hyd at 90% o’r lechfaen a gloddwyd fod yn wastraff.
Olion tanddaearol
Er bod olion allanol y chwareli yn drawiadol iawn, rhaid cofio fod cymaint mwy o’r gweithfeydd wedi eu cuddio dan ddaear. Dyma sy’n gwneud ardal yma o’r Dynodiad mor arbennig. Mae inclenau, agorydd, rhwydweithiau o reilffyrdd, peiriannau o bob math, wedi goroesi. Efallai eich bod wedi cael cip arnynt wrth ddilyn teithiau tanddaearol yn yr atyniadau lleol.
Melinau Llechi
Melin Lechi Diffwys oedd y cyntaf i ddefnyddio pŵer ar gyfer paratoi clytiau (darnau o lechi) i’w hollti yn llechi to.
Roedd Melin Lechi Maenofferen wedi ei chynllunio yn wreiddiol ar gyfer gyriant dŵr. Wedyn, fe ddefnyddiwyd stem ac yna trydan i’w phweru. Mae Melin Lechi Maenofferen yn adeilad anferth a ddefnyddiwyd tan y 1990’au.
Roedd trydan ar gyfer Chwarel Llechwedd yn cael ei greu yn Cwt trydan heidro Pant yr Afon. Cafodd ei agor yn 1904 ac mae’n un o’r cyntaf o’i fath. Mae’r peiriannau gwreiddiol dal yma, efo offer newydd sy’n creu trydan i’w werthu i’r Grid Cenedlaethol.
Byw a Bod
Mae tref Blaenau Ffestiniog efo dros 40 o gapeli, siopau, tafarnau, neuadd farchnad, ac ystafelloedd darllen. Dyma dref fwyaf dinesig ardaloedd y chwareli ac mae wedi datblygu o amgylch y rhwydwaith rheilffyrdd a ffyrdd. Tyfodd o ganlyniad i’r llif cyson o bobl ddaeth yma i weithio a byw o 1820 ymlaen. Roedd bron i 12,000 o bobl yn byw yma erbyn y 1880’au.
Yn wahanol i nifer o’r ardaloedd eraill, doedd dim dylanwad ystadau mawr yma, ac mae hyder pobl Blaenau Ffestiniog yn amlwg. Mae pensaernïaeth y capeli’n profi hynny, ac mae pob stryd yn wahanol hyd at heddiw. Mae yma hefyd dai reit fawr ar gyfer pobl dosbarth canol, a pharc i’w fwynhau.
Mae Plas Tan y Bwlch heb fod rhy bell i ffwrdd, ond mewn byd gwahanol. Hwn oedd cartref perchnogion Chwarel yr Oakeley. Mae ym mherchnogaeth y Parc Cenedlaethol.
Symud Llechi
O dan Blas Tan y Bwlch mae ceioedd ar yr afon Dwyryd. Yn nyddiau cynnar y chwareli cariwyd llechi mewn troliau ar ffyrdd pwrpasol at y ceioedd yma a’u llwytho i gychod bychan i’w cario i lawr yr afon. Byddai’r llechi wedyn yn cael eu symud i mewn i longau mwy, i’w hallforio.
Ond, efo galw mawr am y llechi roedd angen gwell trefn. Agorwyd Rheilffordd Ffestiniog yn 1836 gan fenthyg a datblygu technoleg o ogledd Gwynedd. Roedd yn defnyddio cyfuniad o geffylau a disgyrchiant i anfon wagenni llawn o lechi gwerthfawr yn ddiymdrech i lawr o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog. Cyflwynwyd injans stêm yn y 1860’au, a daeth peirianwyr o bob rhan o’r byd i’w gweld, ac i ddysgu amdanynt. Y canlyniad? - agor rheilffyrdd tebyg mewn ardaloedd mynyddig, fel yr un yn Himalaya (Darjeeling), sydd bellach yn Safle Treftadaeth Byd.
O harbwr Porthmadog, roedd “Llongau Port” yn cludo llechi llwyd Blaenau Ffestiniog ar draws y byd. Adeiladwyd y llongau ym Mhorthmadog, a chriwiau lleol oedd yn eu llywio. Yr Almaen oedd y prif gwsmer, efo miloedd o dunelli o lechi’n cyrraedd trwy Hamburg o’r 1840’au ymlaen.