Mae’r pileri sy’n ffurfio canolbwynt cynllun adfywio Blaenau Ffestiniog wedi cael eu hysbrydoli gan siâp triongl cŷn yr holltwr llechi. Mae bob piler dros 7.5 medr o uchder, a phob un wedi ei adeiladu ag oddeutu 15,000 o lechi o chwarel Llechwedd. Mae’r llechi’n gorwedd ar ongl o 30 gradd, sef ongl gwely’r llechi yn y chwarel. Mae’r cyfeiriad daearyddol yma yn cael ei ategu gan un celfyddydol: yn union fel gwythiennau gwelyau’r llechi, mae bandiau o lechi gloywon yn rhedeg trwy’r pileri, wedi eu hysgythru gyda barddoniaeth a dywediadau’r chwarel.
Oherwydd y daith hir i mewn i’r siambrau dwfn ble roedd y garreg yn cael ei thrin, roedd y chwarelwyr yn aros o dan y ddaear i gael eu cinio, gan gynnal cystadleuaethau barddoniaeth a digwyddiadau gwleidyddol. Mae’r geiriau, oedd unwaith i’w clywed o dan y ddaear, bellach i’w gweld yn haenau'r pileri, i’n hatgoffa o’r diwylliant Cymreig a ddaeth yn sgîl y diwydiant llechi. Mae dringo’r grisiau rhwng y pileri fel dringo allan o’r siambr lechi ar ddiwedd diwrnod gwaith.