Wedi eu lleoli yng nghanol tirwedd llechi Gwynedd, mae Celf Llechen yn gwneud darnau o waith modern addurniadol gan ddefnyddio dulliau traddodiadol gyda llaw o lechi lleol.
Mae Dave Stephen wedi treulio y rhan fwyaf o’i fywyd yng nghanol y mynyddoedd ar gyfer ei waith, ond hefyd i fwynhau. Mae ganddo ddiddordeb mewn daeareg, ac yn benodol llechfaen. Mae gan Ceri Roberts radd mewn Dylunio Cynnyrch ac mae wedi bod yn gweithio gyda llechi ar y cyd gyda Dave am y pum mlynedd diwethaf.
Er bod llechi yn aml yn cael ei ystyried fel deunydd ymarferol, rydym yn dewis pob darn yn unigol er mwyn gallu dathlu eu hamrywiaeth; y lliwiau a’r gwead.
Mae gweithio gyda llechen yn gynhenid. Mae gan y graig ei syniadau ei hun o ran beth y gall a ni all ei wneud, a mae hyn yn rhan o’r sialens. Mae rhaid gweithio GYDA’R deunydd.
Daw ein hysbrydoliaeth o dirwedd syfrdanol Gogledd Cymru a harddwch naturiol y lechen. Yn ogystal mae gennym ymwybyddiaeth o’r grymoedd daearyddol sydd wedi creu’r llechfaen a’i arwyddocâd yn hanes a diwylliant Gogledd Cymru.