Trosedd Treftadaeth

Troseddau treftadaeth yw unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau. Gall hyn olygu dwyn, difrod troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all nid yn unig niweidio'r creiriau hanesyddol eu hunain ond hefyd a all amharu ar fwynhad a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt.

Mae nifer o achosion wedi bod yn ddiweddar mewn mwy nag un gydran o'r Safle Treftadaeth y Byd, gan gynnwys fandaliaeth ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis:

Vandalism at Parc Padarn Country Park, Llanberis. Fire and roof damage.
Fandaliaeth ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis

Mae pwysigrwydd adrodd am drosedd treftadaeth yn ddeublyg. ⁠Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn treftadaeth gyfoethog ein tirwedd llechi. Hefyd, mae adrodd am achosion gan ddefnyddio'r broses gywir yn gwella ansawdd data cofnodion sydd gan yr Heddlu.

Sut i adrodd am Drosedd Treftadaeth

Mewn argyfwng, os yw aelod o'r cyhoedd yn ymwybodol o drosedd treftadaeth sy'n cael ei chyflawni ar hyn o bryd, galwch yr Heddlu ar 999. I adrodd am drosedd treftadaeth sydd eisoes wedi digwydd, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru gan ddefnyddio 101 neu rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein: ⁠www.northwales.police.uk. Nodwch ei bod yn drosedd treftadaeth ymhob achos.

Rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 os hoffech adrodd am wybodaeth yn ddi-enw.

Ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys: ⁠ruralcrimeteam@northwales.police.uk.

Defnyddiwch yr hashnod (meta-data)  #OpHeritageCymru wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfeirio at ddigwyddiadau.

Gwybodaeth Pellach

Cyngor Gwynedd: Cyngor Gwynedd yn annog y cyhoedd i helpu gwarchod treftadaeth leol

Cadw: Troseddau Treftadaeth | Cadw

Ymgyrch Treftadaeth Cymru

The logo of Operation Heritage Cymru, includes the text and an image of a castle.
Ymgyrch Treftadaeth Cymru