Mae’n bwysig bod ein pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn eu cynefin a’u hanes cyfoethog ac yn falch o’u treftadaeth unigryw yma yng Ngwynedd. Trwy gydweithio gyda Gwasanaeth Archifau i Ysgolion a nifer o ysgolion cynradd ar draws y sir mae ein disgyblion ifanc wedi cael cyfle i greu gwaith celf trawiadol dan arweiniad artistiaid dawnus wedi ei ysbrydoli gan y dirwedd llechi.
Mae ein prosiect llysgenhadon ifanc LleCHI (uwchradd) wedi dod a phobl ifanc ardaloedd y Llechi at eu gilydd, a thrwy gyfres o weithdai, ymweliadau a digwyddiadau wedi eu hyfforddi a’u harfogi i wella eu dealltwriaeth am eu treftadaeth a’u diwylliant. Mae’r bobl ifanc yma o ysgolion uwchradd y sir wedi cael cyfleon o ysgrifennu blogs a dylunio logo i ymweld â’r ceudyllau dan do yn Llechwedd a teithio ar y wifren wib yn Zipworld Bethesda! Maent hefyd wedi cyfarfod Asesydd ICOMOS o’r cais Safle Treftadaeth y Byd, cyfrannu mewn paneli trafod, mynychu amryw o ddarlithoedd a digwyddiadau a chael cwestiynu awduron ac artistiaid sydd wedi eu hysbrydoli gan dirwedd llechi Cymru yn eu gwaith.
Rydym yn ogystal wedi cydweithio gyda prosiectau bobl ifanc eraill megis Treftadaeth di-sylw.
Ceir gipolwg o rai o brofiadau’r llysgenhadon ifanc ar ein tudalen YouTube.
Wyddoch chi? Byddai plant a phobl ifanc yr un oed a’n Llysgenhadon Ifanc ni wedi bod yn gweithio yn y chwareli, neu yn helpu ar yr aelwyd.