Mi ddechreuais i yn ôl ym mlwyddyn 2000 yn gweithio yn Llechwedd yn hollti a naddu yn y felin, cyn symud allan ar y graig, sy’n waith tipyn mwy diddorol. Ymlaen wedyn i Cwt y Bugail lle roeddwn i’n creigio. Wedi cwblhau cwrs, ac ychydig o arholiadau mi gês i fy nhiced tanio. Ma' tanio powdwr du yn dipyn mwy diddorol, ac yn gyffrous, achos bo’ na fwy o sgil iddo fo. ‘Da ni’n tanio efo powdwr du tua 2 neu 3 gwaith y diwrnod. Bob hyn a hyn, mi fyddwn ni’n tanio ffrwydriad mawr, sy’n defnyddio tua 10 tunnell o ffrwydron.
Chwarelwr